Y rhybudd tywydd yn ardal Aberdeen (Y Swyddfa Dywydd)
Fe fu’n rhaid symud pobol o bron 40 o dai yn ardal Aberdeen dros nos wrth i’r Alban barhau i ddiodde’ o effaith y tywydd gwael.

Mae pobol yn Aberdeen hefyd wedi cael cyngor i adael eu tai wrth i Heddlu’r Alban gyhoeddi bod hwn yn “ddigwyddiad mawr”.

Mae’r glaw wedi gwneud difrod i lanfa Maes Awyr Aberdeen ac mae’r rheilffordd rhwng y ddinas a Dundee hefyd ynghau.

Roedd y prif problemau yn nyffryn afon Don, gerllaw tref Inverurie ac, yn ôl y gwasanaethau brys, mae lefelau’r afon yn uwch nag y buon nhw ers cy cof.

Mae rhybuddion llifogydd yn parhau mewn sawl ardal yng ngogledd Lloegr a’r Alban ac mae rhybuddion am eira hefyd yno bellach.