Jo Stevens, AS Canol Caerdydd
Mae Jeremy Corbyn wedi cwblhau’r gwaith o ad-drefnu cabinet yr wrthblaid yn dilyn cyfres o ymddiswyddiadau ddoe.

Ymhlith yr Aelodau Seneddol sydd wedi cael eu penodi mae Jo Stevens (Canol Caerdydd), Kate Hollern (Blackburn), ac Angela Rayner (Ashton-under-Lyne).

Fe fydd Kate Hollern yn ymuno a’r tîm amddiffyn gan gymryd lle Kevan Jones, tra bod Angela Rayner yn ymuno a’r tîm gwaith a phensiynau, ar ôl i Emily Thornberry gael ei dyrchafu’n llefarydd amddiffyn.

Bydd Jo Stevens yn ymuno a thîm cyfiawnder Llafur.

Yn dilyn ymddiswyddiad llefarydd trafnidiaeth y blaid Jonathan Reynolds ddoe, fe fydd AS Middlesbrough Andy McDonald yn cymryd ei le.

Fabian Hamilton yn cymryd lle Stephen Doughty

AS Gogledd Ddwyrain Leeds, Fabian Hamilton, sy’n olynu Aelod Seneddol Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty a ymddiswyddodd o fainc flaen y blaid ddydd Mercher.

Roedd Stephen Doughty wedi cyhuddo tîm Jeremy Corbyn o ddweud “celwydd” am y modd y cafodd llefarydd Ewrop, Pat McFadden ei ddiswyddo o gabinet yr wrthblaid, a’i fod wedi dewis gwneud y peth “anrhydeddus” o ganlyniad i hynny.

Mae AS Darlington Jenny Chapman hefyd wedi’i phenodi i’r fainc flaen.

Maria Eagle yw’r llefarydd diwylliant ar ôl i Corbyn ddiswyddo Michael Dugher ac Emily Thornberry, sy’n fydd yn cymryd ei lle fel llefarydd amddiffyn.

Pat Glass fydd yn olynu Pat McFadden ac mae Hilary Benn wedi cadw ei swydd fel llefarydd tramor yr wrthblaid.