Mae’r heddlu’n chwilio afon Tyne am ddynes aeth ar goll o’i chartref yn Northumberland ar Ddydd San Steffan.

Cafodd Sally Allan, 59, ei gweld ar gamera yn cerdded ger yr afon yn Newcastle am 6 o’r gloch fore San Steffan.

Dywedodd Heddlu Northumberland eu bod nhw’n canolbwyntio ar ran o’r afon, ac mae gwasanaethau brys eraill yn eu cynorthwyo.

Gadawodd ei chartref yn y bore cyn cerdded saith milltir i ganol dinas Newcastle, ond dydy hi ddim wedi cael ei gweld ers hynny, a does dim tystiolaeth i awgrymu ei bod hi wedi gadael cyffiniau’r ddinas.