Ar drothwy’r cyfnod ymgyrchu ar gyfer etholiadau seneddol yr Alban, mae arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon wedi wfftio honiadau bod y blaid yn “cyflyru” ei chefnogwyr.

Mewn erthygl, dywedodd Sturgeon fod yr honiadau’n “sarhaus dros ben”.

Bydd yr etholiadau’n cael eu cynnal ar Fai 5, ac fe fydd dadl yn cael ei chynnal yn Holyrood ddydd Mawrth wrth i’r cenedlaetholwyr geisio trydydd cyfnod mewn grym.

Mae Sturgeon wedi addo cynnal dadl o’r newydd ynghylch annibyniaeth, er gwaethaf gwrthwynebiad y Blaid Lafur.

Mae hi hefyd wedi addo cyflwyno deddfwriaeth newydd ym meysydd iechyd, addysg a’r economi.

Mae polau piniwn yn awgrymu y gallai’r SNP gynyddu eu mwyafrif yn Senedd yr Alban wedi’r etholiadau.

Dywedodd Nicola Sturgeon: “Rydyn ni’n gweld fwyfwy yn yr Alban, gan wrthbleidiau a rhai sylwebyddion, ymateb arall – un sy’n nodi graddfa cefnogaeth i’r SNP fel tystiolaeth bod y wlad wedi cefnu ar ei galluoedd critigol gan ffafrio ffyddlondeb pur.

“Gallaf ddeall pam fod y gwrthbleidiau’n cael y syniad hwnnw’n un cysurus – mae’n haws na gorfod wynebu eu ffaeleddau eu hunain. Ond fel dadansoddiad, mae’n sarhaus dros ben i bobol yr Alban.

“Dydy’r rheiny sy’n cefnogi’r SNP ddim wedi cael eu cyflyru, dydyn nhw ddim yn ddall i’n amherffeithrwydd – yn hytrach, maen nhw’n eu pwyso a’u mesur yn erbyn ein cryfder a’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni ac yn erbyn y pleidiau eraill, ac yn penderfynu mai’r SNP yw’r blaid y maen nhw’n uniaethu â hi fwyaf, y bobol y maen nhw’n ymddiried fwyaf ynddyn nhw i sefyll i fyny dros yr Alban.”

Bydd Llafur yr Alban yn cyhoeddi eu polisi cyntaf mewn araith yng Nghaeredin ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i Geidwadwyr yr Alban ganolbwyntio ar addysg a chefnogaeth i wella llythrenned a rhifedd.