Mae hyd at saith cerbyd wedi bod mewn gwrthdrawiad ar yr M4 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Sarn fore Sul.

Roedd dwy lôn ynghau ger cyffordd 36 ond maen nhw wedi agor erbyn hyn.

Mae disgwyl oedi am gryn amser yn ystod y dydd.