Mae dyn 21 oed mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty, wedi iddo gael ei daro gan gar neithiwr.

Fe gafodd y dyn ei anafu’n ddifrifol pan fu mewn gwrthdrawiad efo car Mercedes lliw arian toc wedi hanner nos yn Iron Acton yn ne Swydd Gaerloyw.

Fe ddaeth Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn ymwybodol o’r digwyddiad pan ddaeth aelodau o’r cyhoedd atyn nhw ar ffordd y B4058, gan riportio fod dyn yn cerdded ar y briffordd.

Fe ddaeth swyddogion o hyd i ddyn yn cerdded yng nghanol y lon, yn mynd i gyfeiriad Yate. Wrth i’r heddlu ddod allan o’u car i atal y dyn, fe ddaeth y car Mercedes rownd y tro a’i daro.