Mae ffrwydriad sylweddol wedi ysgwyd canol prifddinas Afghanistan ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn.

Does yna ddim adroddiadau ar hyn o bryd am achos y ffrwydriad, na faint o bobol a allai fod wedi’u hanafu yn y digwyddiad.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrinad mewn rhan o’r ddinas lle mae pobol yn byw, a lle mae nifer fawr o westai. Mae’r ardal hefyd yn gartre’  nifer i swyddogion y wlad.

Hyd yma, does yr un grwp wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydriad.