Mae’r heddlu wedi dod o hyd i ferch yn ei harddegau oedd wedi bod ar goll ers Dydd Nadolig.

Doedd neb wedi gweld Jade Cartlidge, 14 oed, ers tua 1.30yp ddydd Gwener. Fe gafodd ei riportio ar goll o’i chartre’ yn Loughborough yn Swydd Gaerhirfryn ar Wyl San Steffan. Ond, fe ddaeth cadarnhad heddiw ei bod wedi’i chanfod yn saff neithiwr (nos Sul).

Roedd rhieni Jade wedi dechrau poeni wedi iddi fethu a chysylltu gyda nhw.