Mae beth bynnag 80 o bobol wedi’u lladd, wedi i grwp eithafwyr Islamaidd, Boko Haram, ymosod ar ddinas Maiduguri yn Nigeria gyda grenadau a hunanfomwyr.

Mae llygad dystion yn dweud fod yr hunanfomwyr wedi’u chwythu eu hunain i fyny wrth i filwyr geisio ymateb i ymosodiad gan wrthryfelwyr oedd wedi dechrau llosgi tai ym mhentre’ Duwari.

Wrth i bobol ffoi o’u cartrefi, fe ddechreuodd y gwrthryfelwyr saethu, ac fe ffrwydrodd gwraig oedd yn cymryd arni fod yn un o’r dioddefwyr ei hunan yng nghanol aelodau un teulu oedd ar ffo.

Fe neidiodd ail wraig i ganol y cythrwfl, meddai’r tystion, gan ffrwydro dyfais araill a’i chwythu ei hun i fyny.

Mae grwp Boko Haram wedi lladd 20,000 o bobol mewn cyfnod o chwe blynedd.