Safle'r ddamwain yn Glasgow
Bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Glasgow heddiw i nodi blwyddyn ers damwain lori ludw Glasgow.

Mae disgwyl i gannoedd o bobl  ymuno a theuluoedd y rhai gafodd eu lladd a’u hanafu yn y ddamwain ynghanol y ddinas ar Heol y Frenhines ar 22 Rhagfyr y llynedd.

Bydd saith o ganhwyllau’n cael eu cynnal – un ar gyfer pob un o’r rhai gafodd eu lladd ac un ar gyfer y rhai gafodd eu hanafu yn y ddamwain.

Bydd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon yn y gwasanaeth ynghyd ag aelodau o’r gwasanaethau brys fu’n cynorthwyo wedi’r ddamwain.

Mae teuluoedd y rhai gafodd eu lladd – Erin McQuade, Jack Sweeney, Lorraine Sweeney, Stephenie Tait, Jacqueline Morton, a Gillian Ewing – wedi cael gwahoddiad ond mae rhai wedi dweud y byddan nhw’n nodi’r achlysur mewn digwyddiadau preifat.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ôl i’r gyrrwr Harry Clarke lewygu wrth y llyw gan golli rheolaeth o’r cerbyd. Yn ystod ymchwiliad i’r ddamwain daeth i’r amlwg bod ganddo hanes meddygol o lewygu ond nad oedd wedi datgelu hynny wrth y DVLA na Chyngor Dinas Glasgow pan oedd wedi ceisio am y swydd.

Dywedodd y siryf fu’n cadeirio’r ymchwiliad y gallai’r ddamwain fod wedi’i hosgoi petai Harry Clarke wedi dweud y gwir am ei gyflwr meddygol.