Gallai rhannau o orllewin a gogledd Cymru gael eu heffeithio fwyaf wrth i’r rhybudd am law trwm a llifogydd mewn rhai mannau barhau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi 19 rhybudd oren i Gymru, gan nodi fod llifogydd yn bosibl yn yr ardaloedd hynny.

Mae gan Ddinbych y Pysgod a Dyffryn Dyfrdwy Isaf o Langollen i Ddolydd Trefalun rybudd coch am lifogydd, gyda’r asiantaeth yn rhybuddio y bydd angen ymateb sydyn.

Mae CNC yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i gadw llygad ar y datblygiadau a’r rhybuddion llifogydd sy’n cael eu diweddaru ar eu gwefan.

Fe ddywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai cymaint ag 80mm o law ddisgyn ar dir uchel.

Er hyn, mae’r tymheredd yn parhau yn fwyn o ystyried adeg y flwyddyn.