Milwyr yn Afghanistan
Fe fydd milwyr o Brydain yn cael eu hanfon i Afghanistan i helpu’r lluoedd yno i gymryd rheolaeth dros dref allweddol sydd wedi cael ei gipio gan y Taliban.

Mae’r milwyr wedi cael eu hafon i helpu lluoedd Nato, a dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn na fyddan nhw’n cymryd rhan mewn unrhyw frwydro yn nhref Sangin, yn nhalaith Helmand, ac yn cynnig cymorth ymgynghorol yn unig.

Ond yn ôl The Times, mae’r rhai sydd wedi cael eu hanfon i  Afghanistan yn cynnwys o leiaf un uned o’r SAS, sy’n cynnwys 30 o filwyr, sy’n cynorthwyo lluoedd arbennig yr Unol Daleithiau a byddin Afghanistan wrth iddyn  nhw geisio ailfeddiannu Sangin gan y Taliban.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthod gwneud sylw am unrhyw weithredoedd yn ymwneud a’r SAS.

Dywedodd bod gan y DU tua 450 o filwyr yn Afghanistan sy’n mentora ac yn cynorthwyo lluoedd Afghanistan.