Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pa brosiectau fydd yn cael cyfran o dros £2.8 miliwn fel rhan o gynllun i drechu tlodi mewn cymunedau ledled Cymru.

Gall prosiectau gael hyd at £500,000 o grant cyfalaf o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol i wella adeiladau a chyfleusterau sy’n cael eu defnyddio gan y gymuned leol.

Roedd angen i’r cymunedau wneud cais a chynllun busnes i’r Llywodraeth am grant o dan y rhaglen barhaol.

Mae’r 10 prosiect llwyddiannus yn cynnwys rhai yng Nghonwy, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Fynwy, Casnewydd a Chaerdydd.

‘Gwasanaethau pwysig’

“Bydd y £2.8 miliwn yr wyf wedi’i gyhoeddi heddiw’n rhoi bywyd newydd i rai o’r adeiladau a’r mannau sy’n werthfawr iawn i bobl ar draws Cymru,” meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

“Mae’r prosiectau hyn yn hollbwysig i’w cymunedau, gan ddarparu gwasanaethau pwysig sy’n amrywio o gwnsela a gofal plant i gynnig lloches ar gyfer pobl ddigartref a chlybiau gwaith.

“Bydd y cyllid yn galluogi’r prosiectau hyn i ehangu eu gwaith ymhellach, gan agor eu drysau i hyd yn oed mwy o bobl o fewn y gymuned leol.”

Y 10 prosiect

Dyma’r deg a fu’n llwyddiannus o dan y rhaglen y tro hwn,

  • Ffrindiau Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan, Conwy – £32,000
  • Fforwm Cymunedol Penparcau, Aberystwyth – £490,000
  • Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Tabernacl, Sir Benfro – £228,000
  • Canolfan Gymunedol Trefyclo a’r Cylch – £500,000
  • Neuadd Eglwys Sant Tomos y Merthyr, Sir Fynwy – £340,000
  • Capel y Bedyddwyr Underwood, Casnewydd – £130,000
  • Capel y Bedyddwyr Argoed, Caerffili – £267,000
  • Cymdeithas Lles Glowyr Cwm Trelái, Rhondda Cynon Taf – £281,000
  • Old Illtydian RFC, Caerdydd – £97,000
  • Ieuenctid a Chymuned Mynydd Cynffig, Corneli a’r Pîl (KPC), Pen-y-bont ar Ogwr – £500,000

Mae swm yr arian yn dibynnu ar yr hyn mae’r prosiectau eisiau ei wneud gyda’r grant, ond bydd y rhan fwyaf o’r arian yn mynd tuag at wella adeiladau a chyfleusterau yn eu canolfannau lleol.