Mae llefarydd y Ceidwadwyr wedi cadarnhau bod dau o’u Helodau Seneddol yn cynnal perthynas â’i gilydd y tu allan i briodas.

Gwelwyd Andrea Jenkyns gyda Jack Lopresti, sy’n briod a chanddo dri o blant, gyda’i gilydd yng ngorsaf drên Doncaster.

Mae Andrea Jenkyns, 41 oed, yn cynrychioli Morley ac Outwood yng ngorllewin Swydd Gaerefrog.

Fe wnaeth hi greu hanes yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai wrth drechu un o enwau mawr y Blaid Lafur, Ed Balls.

Fe ddaeth Jack Lopresti i’r Senedd yn 2010, ac mae’n cynrychioli Filton a Bradley Stoke.

Yn ôl datganiad gan y Ceidwadwyr: “Fe wnaeth Jack a’i wraig drafod gwahanu ym mis Mehefin. Roedden nhw’n bwriadu treulio’r Nadolig gyda’r plant, fel teulu.

“Mae Jack ac Andrea wedi dechrau perthynas yn ddiweddar iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Maen nhw’n awr yn gofyn am breifatrwydd.”