Mae pwll glo dwfn olaf y DU yn cau heddiw wrth i 450 o lowyr ym Mhwll Glo Kellingley yng ngogledd Swydd Efrog gwblhau eu shifft olaf.

Mae’n dod a therfyn ar ganrifoedd o byllau glo dwfn ym Mhrydain ers dyfodiad y chwyldro diwydiannol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dywedodd Nigel Kemp, 50 oed sydd ymhlith y glowyr sy’n gorffen eu gwaith yn y pwll fod yna ‘gyfeillgarwch’ a ‘brawdgarwch’ ymhlith y glowyr heddiw er gwaetha dwyster y digwyddiad.

Roedd Nigel Kemp yn gallu clywed y glowyr yn canu Delilah, un o ganeuon mwyaf adnabyddus Tom Jones, wrth iddyn nhw fynd i’r pwll  am y tro olaf.

Dywedodd: “Dyna be sy’n gwneud hyn yn arbennig, y gymuned lofaol.

“Mae’n rhyfedd gweld pobl yn cofleidio ei gilydd ac yn chwerthin,” meddai Nigel Kemp, “fedran ni ddim troi’r clociau yn ôl rŵan, mae’n hanes, dim ots beth ry’n ni’n gwneud, mae o wedi mynd.”

‘Fy mywyd oedd y pwll glo’

Roedd Nigel Kemp wedi gweithio yn y pwll glo am bron i 33 o flynyddoedd, gyda’i dad o’i flaen wedi tyllu’r siafftiau ym 1959.

“Mae popeth yr wyf wedi’i gael yn fy mywyd wedi cael ei dalu gan y pwll glo yma,” meddai Nigel Kemp.

“Des i yma o’r ysgol a dyma fy mywyd ers hynny.

“Mae’n rhaid i mi fynd allan i chwilio am waith ond nid oes gen i sgiliau trosglwyddadwy o fath yn y byd.”