Bydd gyrwyr Trenau Arriva Cymru yn streicio am 24 awr yn y Flwyddyn Newydd mewn ffrae dros eu cyflogau ac amodau gwaith.

Mae disgwyl i aelodau’r undeb gyrwyr trenau, Aslef fynd ar streic ddydd Llun, 4 Ionawr, y diwrnod pan fydd llawer o bobol yn mynd yn ôl i’w gwaith ar ôl gwyliau’r Nadolig.

Fe wnaeth 81.7% o aelodau’r undeb bleidleisio o blaid cynnal y streic, gyda 80% o’r aelodaeth wedi pleidleisio.

Bydd aelodau’r undeb hefyd yn gwahardd gweithio oriau goramser o 28 Rhagfyr ymlaen.

Mae Aslef wedi cyhuddo Trenau Arriva Cymru o dorri ei air mewn cytundeb arfaethedig i geisio datrys yr anghydfod.

Yn ôl yr undeb, roedd y ddau gorff wedi dod i gytundeb ond fe wnaeth y cwmni trenau “fynd tu ôl i’w cefnau” a’i newid.

 

Yr undeb wedi “camddeall”

Ond mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr adnoddau dynol Trenau Arriva Cymru, fod yr undeb wedi “camddeall” cynnig y cwmni.

“Mae’n ymddangos bod camddealltwriaeth wedi bod rhwng y cynrychiolwyr lleol a bwrdd cenedlaethol Aslef,” meddai Gareth Thomas.

“Unwaith eto, rydym yn cael ein hunain mewn sefyllfa lle bod rhannau o’r undeb sydd agosaf i’n pobol wedi cytuno i fanylion y cytundeb ond bod hyn heb fod yn glir i fwrdd gweithredu  cenedlaethol Aslef nad oedd yn rhan o’r trafodaethau hyd at 11 Tachwedd.”

Dywedodd Arriva fod ei gynnig wedi bod yn “hael”, gan gynnwys codiad cyflog o 6.5% dros y tair blynedd nesaf, gan godi’r cyflog sylfaenol i yrwyr trên i £46,728.