David Cameron yn annerch cynhadledd newyddion ym Mrwsel
Mae David Cameron wedi mynnu y gall cytundeb ynglŷn â diwygiadau i berthynas Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd gael ei gwblhau erbyn mis Chwefror er gwaethaf rhybuddion gan arweinwyr eraill y gall ei gynlluniau fod yn “annerbyniol”.

Yn dilyn pedair awr o drafodaethau dwys dros ginio ym Mrwsel, dywedodd y Prif Weinidog bod “ffordd ymlaen” bellach tuag at gytundeb.

Fe wadodd bod ei fwriad i atal mewnfudwyr rhag hawlio budd-daliadau am bedair blynedd wedi cael ei wfftio gan yr arweinwyr eraill.

Mae ’na bryder y byddai’n tanseilio egwyddor yr UE o ganiatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y gwledydd Ewropeaidd.

Ond dywedodd llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk na fyddai “gwahaniaethu” ar sail cenedlaetholdeb yn cael ei ganiatáu

Mewn cynhadledd newyddion ar ôl y trafodaethau dywedodd David Cameron bod “cam mawr tuag at gytundeb gwell i Brydain wedi cael ei gymryd ond mae llawer o waith caled eto i’w wneud, ac fe fydd yn cael ei wneud rhwng nawr a 18 Chwefror.”