David Cameron
Mae David Cameron wedi rhoi addewid i “frwydro’n galed dros Brydain drwy’r nos” wrth iddo baratoi ar gyfer trafodaethau gydag arweinwyr gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.

Mae’r Prif Weinidog wedi mynnu ei fod yn hyderus o gael “cytundeb da” wrth iddo geisio diwygio perthynas Prydain o fewn yr UE.

Ond mae’n wynebu gwrthwynebiad cryf gan arweinwyr eraill oherwydd ei fwriad i wahardd mewnfudwyr sydd newydd ddod i’r wlad rhag gwneud cais am fudd-daliadau am y pedair blynedd gyntaf.

Mae wedi cyfaddef nad yw’n disgwyl dod i gytundeb yn ystod yr uwch-gynhadledd ym Mrwsel ond mae’n gobeithio y bydd yn rhoi “momentwm” i’r trafodaethau.

Yn ôl swyddogion, fe fydd yn gwneud apêl “uniongyrchol” i’r 27 arweinydd arall, gan fynnu bod yn rhaid iddyn nhw ymateb i bryderon y DU ynglŷn â’r diffyg rheolaeth dros fewnfudo, y farchnad sengl a’r diffyg cystadleuaeth.

Mae disgwyl i refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r UE gael ei gynnal ar ddiwedd 2017.