Dr Nasik Al-Mufti Llun: Cyngor Caerdydd
Mae perchennog cartref gofal wedi cael rhybudd swyddogol am gamymddwyn proffesiynol ar ôl i ddynes oedrannus farw wedi iddi ddisgyn i lawr siafft lifft.

Bu farw Mary Lewis, oedd yn 96 oed, ar ôl i ofalwraig gerdded i mewn i’r siafft agored wrth dynnu ei chadair olwyn.

Disgynnodd y weithwraig, Carol Conway, lawr y siafft 20 troedfedd yng Nghartref Gofal Pontcanna House yng Nghaerdydd hefyd, gan ddioddef anafiadau difrifol.

Mae Cyngor Gofal Cymru bellach wedi canfod perchennog y cartref Dr Nasik Al-Mufti yn euog o gamymddwyn proffesiynol, a hynny ar ôl iddi eisoes gael dirwy o £100,000 am dorri rheolau iechyd a diogelwch.

‘Wedi cael rhybudd’

Fe glywodd gwrandawiad bod problemau wedi bod â’r lifft yn yr adeilad ers sbel, a bod peiriannydd wedi rhybuddio nad oedd y drysau ar yr ail lawr yn ddiogel  i’w defnyddio.

Ond roedd staff yn aml yn defnyddio allwedd argyfwng i agor y drws a’i defnyddio, a hynny’n wybodus i berchennog y cartref.

Disgynnodd Carol Conway a Mary Lewis i lawr siafft y lifft ar ôl cerdded drwy’r drysau agored, ond nid oedd y lifft yno.

Dywedodd Cyngor Gofal Cymru nad oedd Dr Nasik Al-Mufti wedi ymddwyn mewn ffordd fyrbwyll a bwriadol, ond bod y ddamwain yn un oedd yn “aros i ddigwydd”.