Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi cyflwyniad i Gyngor Sir Ddinbych ar sut y byddan nhw’n sicrhau gwasanaethau meddyg teulu digonol i drigolion Prestatyn.

Codwyd y mater ar ôl i ddwy feddygfa yn y dref gau yn y misoedd diwethaf a hynny oherwydd prinder doctoriaid.

Bydd Meddygfa Seabank – sydd â 2,400 o gleifion – yn dod â’i chytundeb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ben ym mis Mawrth.

Ac ym mis Medi, roedd y bwrdd iechyd wedi cyhoeddi bod Grŵp Meddygol Pendyffryn, meddygfa arall ym Mhrestatyn sydd â 18,000 o gleifion, yn gorfod cau.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd ei bod yn ystyried “datblygu gwasanaethau” yn yr ardal a fydd yn mynd i’r afael â’r prinder meddygon teulu.

‘Methu denu meddygon teulu’

“Rydym ni’n methu denu a chadw unrhyw feddygon teulu yn ein meddygfa,” meddai’r Dr Eamonn Jessup o Grŵp Meddygol Pendyffryn, sydd wedi bod yn gweithio yno am 32 mlynedd.

“Mae hynny oherwydd diffyg doctoriaid sy’n fodlon dod i weithio yn y math o feddygfa sydd gennym ni, achos ei fod yn gymaint o waith, a hynny oherwydd oedran ein poblogaeth a chymaint o salwch sydd ganddyn nhw.”

Mae pedwar o’r chwe meddyg sy’n gweithio yn y feddygfa bellach wedi cyrraedd oedran ymddeol felly doedd dim dewis gan y grŵp yn ôl Dr Eamonn Jessup, ond i “roi’r gorau” i’w cytundeb â’r Bwrdd Iechyd.

“Dydy meddygon newydd ddim am weithio llawn amser,” meddai, “felly byddai’n rhaid i ni gael wyth doctor i ddod yn lle’r pedwar sydd wedi mynd.”

‘Llai o feddygon’

Bydd y feddygfa bellach yn dod o dan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ond yn ôl Dr Eamonn Jessup golyga hyn y bydd llai o feddygon o dan y model newydd a mwy o nyrsys, fferyllwyr, ffisiotherapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill yn y sector iechyd.

Dywedodd Eamonn Jessup, y bydd rhaid “aros i weld” os bydd y model hwn yn gweithio ac mae’n dibynnu os bydd y bwrdd yn gallu denu pobol i ddod i weithio yno.

‘Cyfnod pryderus’

“Mae’n gyfnod pryderus i bawb,” meddai gan nodi hefyd bod Llywodraeth y DU a Chymru wedi “methu cydnabod yr angen i recriwtio rhagor o feddygon teulu”.

“Mae’r diwylliant (o weithio llawn amser fel meddyg teulu) wedi newid a dydy’r gwleidyddion heb sylwi hynny.

“Rwy’n sicr y bydd lot llai o feddygon teulu yng Nghymru yn y dyfodol.”