Llys y Goron Caerdydd
Mae pum person o dde Cymru wedi eu cael yn euog o dwyll yswiriant ceir yn dilyn yr ymchwiliad mwyaf i achosion o’r fath yn y DU.

Mae’r pump wedi’u cyhuddo am wneud chwe chais ffug am yswiriant ceir gwerth £144,000 rhwng 2009 a 2011.

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw cafwyd Bethan Palmer, 26 o Gasnewydd, Stephen Pegram, 49, o’r Coed Duon, Nicola Cook, 41, o’r Hengoed, Nicola Rees, 48, o Fargoed a Stephen Brooks, 45, o Lanedeyrn, Caerdydd i gyd yn euog o gynllwynio i dwyllo.

Roedd Bethan Palmer hefyd wedi’i chael yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafwyd Adam Fear, 27, a Matthew Davies, 33, y ddau o Bontypridd, yn ddieuog o gynllwynio i dwyllo.

Bydd y pump yn cael eu dedfrydu ar 22 Ionawr 2016.

Gwneud difrod bwriadol i geir

Mae rhwydwaith o 81 o bobl a oedd yn rhan o’r cynllwyn, bellach wedi cael eu herlyn.

Roedd y cyhuddiadau’n  cynnwys gwneud 28 o geisiadau ffug am yswiriant ceir.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd heddiw bod y troseddau’n ymwneud a 57 o geir ac roedd y grŵp yn gweithio drwy wneud difrod bwriadol i geir.

Mae’r rhwydwaith, a oedd yn gweithredu o garej ym Mhengam, yn y Coed Duon, wedi costio cyfanswm o £763,068 i’r diwydiant yswiriant.

Teulu yn arwain y sgâm

Perchnogion y garej, a oedd yn cael ei adnabod fel St David’s Crash Repair ac Easifix, oedd teulu’r Yandell, a nhw oedd yn arwain y sgâm yn ôl Heddlu Gwent.

Cawson nhw eu dal gan gamerâu cylch cyfyng eu hunain oedd yn dangos Land Rover yn cael ei yrru i dryc bach i wneud i’r car edrych fel ei fod wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Mae aelodau’r teulu, Byron Yandell, 32, Peter Yandell, 53, Rachel Yandell, 31, Gavin Yandell, 31 a Michelle Yandell, 52, wedi cael eu carcharu am gyfnodau rhwng dwy a chwe blynedd.