Fe allai Gwasanaeth Iechyd Cymru wynebu argyfwng arall dros y gaeaf yn ei hadrannau damweiniau ac achosion brys os nad oes rhagor yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Plaid Cymru.
Dangosodd y ffigyrau diweddaraf bod 2,354 o bobl wedi gorfod aros dros 12 awr i gael eu gweld yn y prif adrannau brys yng Nghymru ym mis Tachwedd eleni o’i gymharu â 2,002 yn ystod yr un mis llynedd.
Ar gyfartaledd mae 64,000 o bobl yn ymweld ag unedau brys bob mis yng Nghymru, gyda’r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai 81.4% o’r rheiny oedd wedi cael eu gweld o fewn pedair awr ym mis Medi. Targed y Llywodraeth yw 95%.
Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod 7,000 yn llai o gleifion wedi ymweld ag unedau brys yng Nghymru ym mis Tachwedd eleni, o’i gymharu a mis Hydref.
Nid oedd yr un bwrdd iechyd gydag adrannau brys mawr wedi cwrdd a’r targed o 95% ym mis Tachwedd. Abertawe Bro Morgannwg oedd y bwrdd iechyd oedd wedi perfformio waethaf gan weld 77.8% o gleifion o fewn pedair awr. Yr uned frys a berfformiodd waethaf oedd Ysbyty Treforys, gan weld 62.9% o bobl o fewn pedair awr.
‘Gwersi heb eu dysgu’
Roedd ffigyrau Medi a Hydref eleni hefyd yn uwch na’r un cyfnod yn 2014, a chyda gwasanaethau iechyd fel arfer ar eu prysuraf yn ystod mis Rhagfyr ac Ionawr fe allai’r niferoedd gynyddu eto.
Yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones fe ddylai Llywodraeth Cymru fod wedi sicrhau gwell mynediad i feddygon teulu ac Unedau Mân Anafiadau er mwyn lleihau’r pwysau ar yr adrannau damweiniau ac achosion brys.
“Mae’n iawn fod doctoriaid yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys yn canolbwyntio ar y rheiny sydd yn ddifrifol wael, ac rydyn ni’n gwybod yn ystod y gaeaf bod llawer o achosion yr unedau yn fwy cymhleth ac yn cymryd mwy o amser i’w trin,” meddai Elin Jones.
“Fodd bynnag, mae’r ystadegau ar faint o amser mae pobl yn ei dreulio mewn adrannau brys yn rhoi cipolwg i ni o sut mae’r system yn ymdopi.
“Mae’r ffaith bod amseroedd aros yn hirach na’r un cyfnod llynedd yn bryderus, ac yn dangos nad yw gwersi wedi cael eu dysgu o aeafau blaenorol.”
‘Rhaid sicrhau digon o staff ac adnoddau’
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: “Er gwaetha’r ffaith bod ganddyn nhw lai o gleifion i’w trin, mai ein hunedau brys yn dal i drin llai o bobl o fewn y targed amser.
“Rhaid i weinidogion Llafur sicrhau bod gan y GIG ddigon o staff ac adnoddau, ac mae’n amlwg nad yw hynny’n digwydd.”
Ychwanegodd nad oedd yn deg bod staff rheng flaen “yn cael eu gadael i lawr oherwydd methiant eu penaethiaid i roi trefniadau effeithiol mewn lle.”