Ffoaduriaid o Syria yn cyrraedd Gwlad Groeg
Mae’r gwaith o helpu 11 o ffoaduriaid o Syria, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth, i gynefino ac integreiddio i’w hamgylchedd newydd yn parhau.
Mae’r cynllun yn cael ei gyd-lynu gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyngor Ceredigion.
“Mae’r ffoaduriaid bellach wedi cyrraedd yn saff yn Aberystwyth, ac yn setlo yn dda yn eu milltir sgwâr newydd,” meddai’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd y Cyngor a chadeirydd y Grŵp.
“Mae trigolion Aberystwyth wedi bod yn hynod groesawgar, a dwi’n siŵr y bydd hynny o gysur mawr i’r ffoaduriaid wrth iddyn nhw integreiddio yn y gymuned ac, ar ran y Grŵp, hoffwn ddiolch i drigolion y dref am ddangos cymaint o ddyngarwch a haelioni.”
Mae’r Groes Goch Brydeinig yn parhau i roi cymorth i’r ffoaduriaid yn Aberystwyth gan gynnwys eu helpu i gofrestru â meddyg teulu, arwyddo cytundebau tenantiaid a’u helpu gyda’u siopa.
“Canfod hafan ddiogel yn Aber”
“Mae’r teuluoedd yn setlo yn dda iawn yn eu cartrefi newydd ac yn ddiolchgar tu hwnt am y gefnogaeth y maent wedi ei dderbyn hyd yma,” meddai Denise John, rheolwr ardal Ceredigion y Groes Goch.
“Bydd gwersi Saesneg yn cychwyn yr wythnos nesaf a bydd y plant yn cychwyn yn eu hysgolion newydd wedi gwyliau’r Nadolig.”
Dywedodd hefyd fod y Groes Goch yn “darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol” iddyn nhw.
“Rydym yn falch iawn i fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion a phartner asiantaethau eraill i sicrhau bod y rhai sydd yn ffoi’r gwrthdaro treisgar yn Syria yn gallu canfod hafan ddiogel yn Aberystwyth.”