Stuart Bates a’i fab Fraser
Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaeth tad a’i fab 7 oed.

Bu farw Stuart Bates a’i fab Fraser ar ôl cael eu taro gan gar ar yr A4119 yn Nhonysguboriau ar 6 Rhagfyr.

Cafodd y cwest i farwolaeth y ddau, a oedd yn byw yn Llanisien, Caerdydd ei agor a’i ohirio yn ystod gwrandawiad yn Aberdâr heddiw.

Mae’r Crwner Andrew Barkley wedi gohirio’r achos tan 10 Mawrth pan fydd adolygiad cyn-cwest yn cael ei gynnal.

Roedd y ddau wedi bod yn croesi’r ffordd pan gawson nhw eu taro gan gar Alfa Romeo.

Cafodd Stuart Bates ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ond bu farw yn dilyn “anafiadau niferus” meddai’r patholegydd Anthony Davidson wrth y gwrandawiad.

Cafodd Fraser ei gludo i Ysbyty Plant Bryste lle bu farw’n ddiweddarach o ganlyniad i “anaf difrifol i’w ymennydd.”

Cafodd gyrrwr y car ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan 7 Chwefror.

Mae Stuart Bates yn gadael gwraig, Anna Bates, a merch, Elizabeth, 3 oed.