John Sabine
Mae cwest i farwolaeth dyn y cafwyd hyd i’w gorff 18 mlynedd ar ôl iddo fynd ar goll, wedi dweud ei fod wedi marw o ganlyniad i ergyd i’r pen.

Cafodd y cwest i farwolaeth John Henry Sabine ei agor a’i ohirio yn Aberdâr y bore ma.

Clywodd y gwrandawiad bod ymchwiliad i’w lofruddiaeth yn parhau.

Cafwyd hyd i gorff John Sabine, a fyddai wedi bod yn 85 oed erbyn hyn, wedi’i lapio mewn gorchudd plastig ar dir y tu ôl i fflatiau yn Nhrem-y-Cwm, Beddau ar 24 Tachwedd.

Ei ddiweddar wraig, Ann Sabine, sy’n cael ei hamau o’i lofruddio. Bu hi farw o ganser ar 30 Hydref eleni.

Mae ditectifs wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i “weithgareddau ariannol” y cwpl – gan gynnwys taliadau pensiwn John Sabine. Maen nhw’n credu y gallai’r taliadau fod wedi eu talu i gyfrif banc y cwpl dros y ddau ddegawd diwethaf.

Mae’r heddlu wedi datgelu nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw adroddiadau bod John Sabine ar goll a bod ei enw wedi parhau i ymddangos ar y gofrestr etholiadol.

Cafodd y cwest ei ohirio heddiw gan y crwner Andrew Barkley a bydd adolygiad cyn-cwest yn cael ei gynnal ar 10 Mawrth.