Mae’r llywodraeth wedi cael eu cyhuddo o “doriadau enfawr ac annoeth” i ynni solar ar olm cyoeddi gostyngiad o 65% mewn cymorthdaliadau i’r sector.

Yn ôl gweinidogion mae angen torri’r cymorthdaliadau er mwyn lleihau cost ynni gwyrdd ar filiau trydan pobl, a dyw’r toriadau ddim mor llym â’r rheiny gafodd eu cynnig yn gynharach eleni.

Ond mae’r diwydiant solar wedi rhybuddio y gallai miloedd o swyddi gael eu colli yn y sector os aiff y toriadau yn eu blaen.

Ac fe gyhuddodd Cyfeillion y Ddaear y Llywodraeth o ragrith am leihau cymorth i ynni gwyrdd ychydig ddyddiau’n unig ers arwyddo cytundeb newid hinsawdd ym Mharis.

‘Trychinebus’

Yn ôl y cynlluniau diweddaraf fe fydd paneli solar domestig nawr yn derbyn 4.39c am bob cilowat awr o drydan adnewyddadwy sydd yn cael ei gynhyrchu, 65% yn llai na’r lefelau presennol.

“Mae’r llywodraeth wedi gwrando yn rhannol. Dyw e ddim beth roedden ni angen, ond mae’n well na’r cynigion gwreiddiol o 87%,” meddai prif weithredwr y Gymdeithas Fasnach Solar, Paul Barwell.

“Fe fyddwn ni’n parhau i frwydro am gytundeb gwell ar gyfer beth fydd nawr mwy na thebyg yn ddiwydiant mwy cyfunol gyda llai o gwmnïau.”

Doedd Cyfeillion y Ddaear ddim yn hapus fodd bynnag bod diwydiant ynni sydd yn gyson yn cael ei gweld yn ffafriol gan y cyhoedd yn wynebu toriadau mor ddwfn.

“Efallai bod gwrthwynebiad cyhoeddus cryf i gynlluniau gwreiddiol y llywodraeth wedi gorfodi gweinidogion i addasu eu cynlluniau, ond mae hyn dal yn newyddion trychinebus i Brydain ac i’r diwydiant ynni adnewyddadwy bach.”