Mae astudiaeth newydd yn dangos y gallai 25 o fywydau fod wedi’u hachub ym Mhrydain eleni pe byddai’r lefel cyfreithiol ar gyfer prawf yfed a gyrru yn is yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Alban eisoes wedi cyflwyno deddf i leihau’r cyfyngiad cyfreithiol o alcohol o 80mg i 50mg i bob 100ml ac, yn ôl yr astudiaeth, pe byddai Cymru a Lloegr wedi gwneud yr un fath gallai 95 o bobl fod wedi’u hatal rhag cael eu hanafu’n ddifrifol.
Comisiynwyd yr ymchwil gan yr elusen foduro, RAC, ac fe’i cynhaliwyd gan ymgynghorwyr diogelwch y ffyrdd y Llywodraeth (PACTS).
Yn ôl yr astudiaeth, cafodd 240 o bobl eu lladd y flwyddyn yn sgil damwain yn ymwneud â gyrrwr a oedd dros y cyfyngiad alcohol ym Mhrydain rhwng 2010 a 2013.
Pe byddai’r cyfyngiadau alcohol wedi bod yn 50mg o alcohol i bob 100ml o waed yn ystod y cyfnod hwn, byddai 25 yn llai o farwolaethau wedi bod, yn ôl yr Athro Richard Allsop.
‘Achos da i ailasesu’
Fe gyflwynodd yr Alban ddeddf i newid y cyfyngiad alcohol i 50mg ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae gwledydd eraill yn Ewrop wedi gwneud yr un fath, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd a Sbaen.
Er hyn, mae cyfyngiad cyfreithiol yfed a gyrru yng Nghymru a Lloegr wedi parhau ar 80mg ers 1967.
Fe gyhoeddwyd yr ymchwiliad annibynnol diwethaf ar y cyfyngiad yn 2010, gyda Syr Peter North yn awgrymu ei ostwng i 50mg.
Yn ôl Prif Weithredwr PACTS, David Davies, mae’r adroddiad yn rhoi “achos da” i’r Senedd ailasesu’r mater.
“Mae gyrrwr sydd ag 80mg o alcohol yn ei waed 12 yn fwy tebygol o gael ei ladd mewn damwain na gyrrwr nad sydd ag alcohol yn ei waed – ond gallai dal fod o fewn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr.”