Mae Scotland Yard wedi rhyddhau lluniau o ddwy ddynes maen nhw’n awyddus i’w holi mewn cysylltiad ag ymosodiad hiliol honedig ar ddynes Fwslimaidd ar fws.

Dywed yr heddlu eu bod yn trin yr ymosodiad honedig fel “trosedd casineb” ar ôl i dystion glywed y ddwy ddynes yn gweiddi sylwadau hiliol at y ddynes. Honnir ei bod hi hefyd wedi cael ei dyrnu a’i chicio.

Cafodd swyddogion eu galw i’r digwyddiad ar y bws yn Southwark, de Llundain tua 8.10yh ar 28 Hydref.

Cafodd y ddynes, sydd yn ei 40au, ei chludo i ysbyty yn Llundain am driniaeth. Mae hi bellach wedi gadael yr ysbyty.

Mae’r ddwy ddynes sy’n cael eu hamau o’r ymosodiad yn groenddu ac yn eu 20au. Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio.

Mae’r Heddlu Metropolitan yn annog unrhyw un sydd â lluniau o’r digwyddiad i gysylltu â nhw.

Roedd y bws yn teithio o Kings Cross i Peckham ac mae’r heddlu’n credu y gallai nifer o deithwyr fod wedi ffilmio’r digwyddiad a chymryd lluniau o’r ddwy ddynes.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111.