Mae Heddlu’r De yn rhybuddio am oedi i deithwyr yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tair lori ar draffordd yr M4 y bore ma.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger cyffordd 30, Porth Caerdydd, ac mae dwy lon ar gau i’r gorllewin.

Mae ciwiau hir rhwng cyffordd 30 a chyffordd 32, ger Cyfnewidfa Coryton.

Mae’n debyg nad oes unrhyw un wedi cael eu hanafu yn y gwrthdrawiad.