Llifogydd yn Llanelwy yn 2012
Fel rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, fe fydd £6 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau atal llifogydd.

 

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, y bydd buddsoddiad o £3 miliwn yn cael ei wneud ar gyfer cynllun atal llifogydd yn Llanelwy wedi iddyn nhw brofi llifogydd mawr yn 2012.

Yn ogystal, fe fydd £3 miliwn yn cael ei neilltuo i’r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol – sy’n defnyddio cyllid i ariannu gwerth £150m o brosiectau wrth addasu’r arfordir i ymdopi â’r hinsawdd sy’n newid ac i wrthsefyll ei effeithiau.

Llanelwy

Bydd y cynllun atal llifogydd yn Llanelwy yn lleihau’r risg o lifogydd ar hyd afon Elwy yng nghalon y ddinas, a hynny er lles y trigolion a ddioddefodd yn drwm yn sgil llifogydd 2012.

Mae disgwyl i 414 eiddo elwa o’r cynllun, gyda gwelliannau’n cael eu gwneud i hen bont Llanelwy, y llwybrau troed a beiciau, gwelliant i’r fioamrywiaeth ac adfer y nant fach.

“Ffrwyno effeithiau llifogydd a chadw’n cymunedau’n ddiogel yw un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon,” meddai Carl Sargeant.

“Ond mae tywydd mawr yn parhau i roi’n hamddiffynfeydd rhag llifogydd ar brawf.”

Esboniodd fod y Llywodraeth wedi bod yn cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru i benderfynu pa fesurau sydd eu hangen i leihau’r perygl o lifogydd.

“Bydd y cynllun yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl Llanelwy sy’n wynebu’r bygythiad o weld eu cartrefi a’u busnesau’n mynd dan ddŵr bob tro y daw tywydd mawr.”

Fe esboniodd y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau ar y gwaith yn syth.