Y roced yn gadael Kazakhstan
Mae’r gofodwr, Tim Peake, bellach wedi cychwyn ar ei daith hanesyddol i ymuno â’r criw yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS).

Tim Peake, 43 oed, yw’r gofodwr proffesiynol Prydeinig cyntaf i gael ei gyflogi gan yr asiantaeth ofod.

Fe gychwynnodd y roced Rwsiaidd o Baikonur Cosmodrome yn  Kazakhstan ychydig wedi 11 y bore yma, o flaen cyfryngau’r byd yn dilyn wythnosau o baratoi.

Yn ei neges ddiwethaf i’w ddilynwyr ar Twitter, fe ddiolchodd Tim Peake am y negeseuon a ddymunai’n dda iddo ac am yr holl gefnogaeth.

Fe fydd yn cymryd chwe awr i’r roced gyrraedd yr orsaf ofod ac fe fydd Tim Peake yn treulio chwe mis yno yn cynnal gwahanol arbrofion.

Fe fydd Techniquest yng Nghaerdydd yn cynnal digwyddiadau arbennig heddiw i nodi’r achlysur.

‘Edmygedd a rhyfeddod’

 

Fe anfonodd y Prif Weinidog, David Cameron, neges i ddymuno’n dda i’r gofodwr ar ei daith i’r Orsaf Ofod Ryngwladol.

Mewn neges fideo, fe ddywedodd fod Tim Peake “yn ein gwneud ni’n falch” ac y byddai pawb ym Mhrydain yn gwylio ei daith gydag “edmygedd a rhyfeddod.”

Fe ychwanegodd, “ar ran pawb ym Mhrydain, rwy’n dymuno’r gorau i ti. Rwyt yn ein gwneud ni’n falch.”