Tim Peake
Yn Kazakhstan heddiw fe fydd y gofodwr Prydeinig Tim Peake yn dechrau ar ei daith i ymuno a  chriw yr Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS).

Peake yw’r gofodwr Prydeinig cyntaf i ymuno a’r orsaf ofod.

Mae disgwyl i’r roced Rwsiaidd adael y Baikonur Cosmodrome am 11.03 (GMT) y bore ma.

Fe fydd yn cymryd chwe awr i’r roced gyrraedd yr orsaf ofod ac fe fydd Tim Peake yn treulio chwe mis yno yn cynnal gwahanol arbrofion.

Cyn y daith hanesyddol, fe fu Tim Peake yn trydar i ddiolch i bawb am eu negeseuon a’u cefnogaeth.

Fe fydd Techniquest yng Nghaerdydd yn cynnal digwyddiadau arbennig heddiw i nodi’r achlysur.