Mae llefarydd amgylchedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi galw am fwy o dargedau i gwtogi nwyon tŷ gwydr yng Nghymru yn sgil y cytundeb newid hinsawdd a wnaed ym Mharis dros y penwythnos.
Fe ddywedodd William Powell AC fod angen torri allyriadau nwyon tŷ gwydr 100% er mwyn cwrdd â rhwymedigaeth Cymru ar y llwyfan byd eang.
Mae wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i gefnogi cynlluniau ei blaid i newid Mesur yr Amgylchedd.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn galw am leihad o 100% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.
‘Angen i Gymru gymryd camau’
“Mae lleihau cynnydd yn nhymheredd y byd i 2C yn angenrheidiol i osgoi’r niwed na ellir ei adfer ar yr amgylchedd, a byddai ei gyfyngu i 1.5C yn helpu i ddiogelu rhai o ynysoedd bychain a thlawd y byd,” meddai William Powell.
“Os ydyn ni’n mynd i gyrraedd y targed uchelgeisiol yma, mae’n rhaid i bob cenedl yn y byd wneud ei ran. Mae angen i Gymru gymryd camau ac ymrwymo i leihau allyriadau i sero erbyn 2050.
“Gall Llafur ddim parhau i ddweud un peth ar lwyfan y byd ac wedyn troi oddi wrth eu cyfrifoldebau unwaith y maen nhw adref,” meddai William Powell.