Fe fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £7.5m i foderneiddio gwasanaethau arbenigol i fabanod sydd wedi’u geni’n gynnar yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Bydd y buddsoddiad yn creu rhagor o le yn yr uned newydd-anedig, ac yn cynnwys lle i 6 crud ychwanegol.

Mae’r uned wedi gorfod cau ar sawl achlysur oherwydd heintiau yn ddiweddar, ac yn ôl y Llywodraeth bydd y buddsoddiad yn fodd i atal a rheoli digwyddiadau tebyg.

Fe fydd y buddsoddiad yn cyfrannu at grudiau gofal arbennig, gan ehangu’r gofod sy’n cael ei ddefnyddio gan ward arall ar hyn o bryd.

‘Gwaith adnewyddu’
Wrth gyhoeddi’r buddsoddiad, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y bydd y buddsoddiad yn golygu “y gall staff ddarparu’r gofal gorau posibl i fabanod a’u teuluoedd yn yr amgylchedd mwyaf modern posibl.”

“Bydd y buddsoddiad yn cynyddu’r gwagle sydd ar gael rhwng pob crud ac yn gwella’r gwaith o atal a rheoli heintiau. Wrth adnewyddu, rydyn ni wedi ystyried y dyfodol, gan adael lle i chwe chrud arall.”

Disgwylir i’r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau erbyn haf 2016, gyda’r uned yn symud dros dro i ddwy ward yn yr ysbyty.

Mae’r buddsoddiad yn ategu cynlluniau hirdymor y Llywodraeth i wella gofal newydd-anedig yn y De, gydag Ysbyty Athrofaol Cymru yn un o’r tair canolfan arbenigol sy’n darparu’r gofal mwyaf cymhleth i fabanod a’u teuluoedd yn y De.