Mae “angen gwelliannau” ar dri o bedwar o luoedd Heddlu Cymru yn y modd y maen nhw’n ymateb i bobl fregus a thrais domestig, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Cyhoeddwyd yr adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC), yn sgil arolygiaeth o’r 43 llu heddlu ar draws Cymru a Lloegr.

O’r rheiny, mae angen i 27 llu heddlu wneud gwelliannau, gyda thri o’r rheiny yn lluoedd o Gymru – sef Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu De Cymru.

Yn ôl yr adroddiad, mae ymateb gwasanaeth Heddlu Gwent wrth ddelio â phobl fregus “yn dda”, ynghyd â 12 llu arall.

 

‘Gwelliannau’

 

Yn yr adroddiad, mae’r Arolygwr ar ran HMIC, Wendy Williams, yn nodi fod gan Heddlu Dyfed Powys “foeseg gref i warchod pobl fregus”. Ond, mae’r adroddiad yn cydnabod fod “ardaloedd sydd angen gwelliant wrth ddelio â galwadau 999 neu 101, a bod diffyg arbenigedd wrth ddelio â rhai achosion o drais domestig.”

Er iddi gydnabod fod Heddlu De Cymru yn llwyddo i gefnogi dioddefwyr bregus gan roi trais domestig ac ecsbloetio plant fel blaenoriaeth – mae’n nodi hefyd fod angen gwneud gwelliannau.

O ran Heddlu Gogledd Cymru, dywedodd fod yr HMIC “wedi gweld cynnydd ers i ni eu harolygu am gam-drin domestig ddiwethaf yng Ngogledd Cymru.”

Ond eto, mae’n nodi bod y cynnydd yn cael ei rwystro gan ddwy broblem, sef “gallu’r heddlu i adnabod yn gywir rhywun sy’n agored i niwed ar y cyswllt cyntaf, a hefyd dosbarthiad y llu i ymchwiliadau o droseddau yn unol â sgiliau a phrofiad yr ymchwilydd.”

Er hyn, fe wnaeth HMIC gydnabod fod ymateb Heddlu Gwent yn “dda” a’u bod wedi gwneud cynnydd wrth adnabod dioddefwyr bregus ac achosion sy’n digwydd dro ar ôl tro.

Fe fydd HMIC yn monitro cynnydd Heddlu Dyfed Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gogledd Cymru wrth ymateb i’r argymhellion.

 

Ymateb Heddlu De Cymru

Mewn ymateb i’r adroddiad, fe ddywedodd Nikki Holland, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru eu bod yn “siomedig”.

Esboniodd fod yr adroddiad yn edrych ar y gweithdrefnau a’r ymarferion a oedd yn eu lle adeg yr arolwg, “ond dyw e ddim yn ystyried y gwaith da yr oedd y llu a’r Comisiynydd eisoes wedi’u dechrau, sy’n cyfeirio nifer o’r argymhellion a wnaed ar gyfer gwelliant.”

Fe ddywedodd fod yr adroddiad yn “amlygu llawer o bethau cadarnhaol” gan gynnwys fod y llu yn gwneud trais domestig ac ecsbloetio rhywiol ar blant yn flaenoriaethau.

Fe ddywedodd Sophie Howe, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd fod “llawer o waith arloesol a phwysig yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ynglŷn â’r modd rydym yn delio â’r bobl fregus yn ein cymdeithas.”

Fe ddywedodd fod staff mewn meddygfeydd ac ysbytai bellach yn cyfeirio dioddefwyr atynt, a hynny ar ôl derbyn hyfforddiant.

“Drwy adnabod y dioddefwyr yn gynnar, rydym yn gobeithio eu sianelu nhw at gyngor a chefnogaeth briodol i’w cadw’n ddiogel.”