Julian Assange
Fe allai cytundeb newydd rhwng Sweden ac Ecwador olygu y gallai sylfaenydd WikiLeaks gael ei holi gan awdurdodau Sweden heb iddo orfod gadael yr adeilad lle mae’n cymryd lloches yn Llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain.

Mae Julian Assange wedi bod yn byw yn Llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers 2012, wedi iddo dderbyn lloches wleidyddol gan Lywodraeth Ecwador.

Mae’n aros yno er mwyn osgoi cael ei estraddodi gan yr awdurdodau yn Sweden yn sgil honiadau o dreisio.

Mae Julian Assange yn gwadu’r cyhuddiadau hynny, ond mae’n ofni y bydd Sweden yn ei estraddodi i’r UDA i’w holi am weithgarwch WikiLeaks.

‘Holi yn y Llysgenhadaeth’

Mae Ecwador wedi cytuno i Sweden holi Julian Assange, lle na fydd rhaid iddo adael yr adeilad.

Fe ddywedodd Baltasar Garzon, cydlynydd tîm cyfreithiol Julian Assange: “Rydym yn falch fod Ecwador a Sweden wedi dod i gytundeb i weithredu’n gyfreithiol.”

Fe ddywedodd fod Julian Assange wedi arddangos ei barodrwydd i gymryd rhan drwy gydol yr amser, ac “unwaith eto, ry’n ni’n mynegi ein diolch i Ecwador am barhau â’u hymdrech i ddiogelu cywirdeb ei ddiogelwch cyfreithiol a phersonol.”

Mae’n annhebyg y bydd Julian Assange yn cael ei holi gan Sweden tan y flwyddyn newydd.

Fe gafodd ei arestio yn wreiddiol yn y DU ychydig dros bum mlynedd yn ôl. Ym mis Awst, fe gyhoeddodd erlynwyr Sweden eu bod yn gollwng ymchwiliadau i ddau honiad, gan adael un honiad a fydd yn dod i derfyn yn 2020 o dan gyfraith Sweden.