Hywel Williams AS
Mae Plaid Cymru wedi dweud wrth Brif Weinidog Prydain y byddan nhw’n blocio unrhyw Fesur Cymru ‘sy’n gwanhau pwerau’r Cynulliad’.
Mewn llythyr at David Cameron, mae Leanne Wood, arweinydd y blaid a’i harweinydd seneddol, Hywel Williams, yn dweud bod Mesur Cymru yn ‘tanseilio ewyllys’ pobol Cymru yn y refferendwm ar roi pwerau deddfu i’r Cynulliad yn 2011.
Mae’r llythyr, sydd hefyd wedi’i anfon at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn dweud bod y mesur yn cyfyngu pwerau’r Cynulliad.
“Yn refferendwm 2011, rhoddodd pobl Cymru fandad clir i’r Cynulliad Cenedlaethol i gael pwerau deddfu cynradd llawn. Mae’r drafft Mesur Cymru yn ei ffurf bresennol yn tanseilio’r mandad hwnnw,” meddai Leanne Wood AC.
“Ni fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid Mesur sy’n methu parchu’r farn hon, unai yn San Steffan neu yn y Cynulliad.”
Yn ôl y blaid, dydy’r mesur ddim yn gweithredu argymhellion y Comisiwn Silk ond mae Llywodraeth Prydain yn dadlau ei bod yn gweithredu ar dri-chwarter yr argymhellion yn yr adroddiad ar ddatganoli.
Mesur Cymru – ‘cam yn ôl’
“Ar hyn o bryd, mae’r ffaith fod gan Lywodraeth y DG feto dros faterion Cymreig yn rhwystr amlwg,” meddai Hywel Williams AS.
“Mae’n arwydd o gam sylweddol yn ôl o setliad presennol Cymru ac yn ffafrio San Steffan yn fwy fyth o ran ei rheolaeth dros faterion Cymreig.”
Yn ôl Hywel Williams, mae Plaid Cymru yn cytuno â Llywodraeth Prydain fod Mesur Cymru yn ‘gyfle i greu setliad datganoli clir a pharhaol’ a bod ei blaid ‘wastad wedi cyfrannu’n adeiladol’ i’r trafodaethau ynghylch y mesur.
“Serch hyn, mae cynlluniau Llywodraeth y DG ar hyn o bryd yn gadael Cymru’n agored i golli pwerau i San Steffan,” ychwanegodd.
“Os yw democratiaeth Gymreig am aeddfedu ac os ydym am sicrhau llywodraeth fwy atebol, rhaid i ni symud ymlaen, nid yn ôl.
Cyfarfod â Cameron
Mae Leanne Wood a Hywel Williams bellach wedi galw am gyfarfod â David Cameron i drafod y mater, gan ‘weithio gyda’i gilydd’ i ‘sicrhau mesur bydd yn parchu ewyllys pobol Cymru.”