Neil Fox
Mae disgwyl i ynadon yn achos y DJ Neil Fox gyhoeddi ei dyfarniad heddiw.

Mae cyn-gyflwynydd Capital FM yn wynebu cyfres o gyhuddiadau’n ymwneud ag ymosod yn anweddus ac ymosod yn rhywiol ar ferched mor ifanc ag 14 oed. Mae’r troseddau honedig yn dyddio nôl i’r 1980au.

Fe fydd Fox, 54, yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster lle mae’r dioddefwyr honedig, rhai yn ffans ac eraill yn gyn-gydweithwyr, wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn ei erbyn.

Mae Fox, sy’n byw yn Fulham, Llundain yn gwadu wyth cyhuddiad o ymosod yn anweddus a dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol rhwng 1988 a 2014.