Mae athro mewn meithrinfa ger Paris, wedi cael ei drywanu yn ei wddf gan ddyn a oedd yn honni ei fod yn gweithredu ar ran y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Digwyddodd yr ymosodiad y bore yma cyn i’r plant gyrraedd y feithrinfa yn ardal Aubervilliers i’r gogledd o Baris.

Yn ôl adroddiadau’r Heddlu, maen nhw’n trin yr ymosodiad fel un brawychol, ac maen nhw’n dweud bod yr athro wedi cael ei drywanu yn ei wddf ac yn ei stumog.

Mae’r athro wedi’i gludo i’r ysbyty ond mae’n debyg nad yw ei fywyd mewn perygl.

Mae Ffrainc yn parhau ar lefel uchel o wyliadwriaeth yn dilyn yr ymosodiadau brawychol ym Mharis ar 13 Tachwedd, lle cafodd 130 o bobol eu lladd.

Mae’r dyn a ymosododd ar yr athro heddiw yn parhau i fod ar ffo.