Safle'r ddamwain yn yr Aifft
Yn ôl prif ymchwilydd yr Aifft, does dim tystiolaeth mai ‘gweithred anghyfreithlon na brawychol’ a achosodd i awyren o Rwsia blymio i’r ddaear yn Sinai ym mis Hydref.
Daeth datganiad Ayman el-Muqadam yn dilyn ymchwiliad rhagarweiniol i’r digwyddiad a laddodd pob un o’r 224 o bobol oedd ar yr awyren ar 31 Hydref.
Mae’r ymchwiliad yn parhau, ac roedd awgrym yn y datganiad nad hyn fydd casgliad terfynol y pwyllgor ymchwilio.
Roedd yr awyren yn teithio yn ôl i Rwsia o’r ganolfan wyliau poblogaidd yn yr Aifft, Sharm el-Sheikh.
Yn ôl awdurdodau Rwsia, roedd dyfais ffrwydrol wedi cael ei roi ar yr awyren Airbus 321-200 ac mae cangen Sinai o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi cymryd cyfrifoldeb am y weithred.