Cafodd dyn 56 oed o Weriniaeth Iwerddon ei ladd mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd bore ma.
Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle. Ni chafodd teithiwr 29 oed oedd yn y car ei anafu.
Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn 45 oed o Ferthyr Tudful wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 4.10yb bore dydd Llun, 14 Rhagfyr ger Parc Tredegar ar gyffordd 28.
Mae’r heddlu’n rhybuddio teithwyr i ddisgwyl oedi hir ar yr M4 gan mai dim ond un lon sydd ar agor. Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal ac mae disgwyl i’r oedi barhau tan amser cinio heddiw.