Carchar Bae Guantanamo
Mae’r carcharor olaf o Brydain i gael ei ryddhau o Fae Guantanamo wedi dechrau ymgyrch i ledaenu gwybodaeth ynglŷn â’i 14 mlynedd yn y carchar milwrol.

Mewn cyfres o gyfweliadau ers iddo gael ei ryddhau ym mis Hydref, mae Shaker Aamer wedi bod yn disgrifio’r driniaeth greulon a gafodd ym Mae Guantanamo.

Mewn cyfweliad gydag ITV News dywedodd bod Bae Guantanamo yn le sydd wedi ei gynllunio gan seicolegwyr “i ddinistrio bod dynol yn gyfan gwbl.”

Wrth gael ei holi am yr hyn a hoffai weld yn digwydd nesaf, dywedodd Shaker Aamer ei fod am weld y cyn-Brif Weinidog “Tony Blair a phwy bynnag arall oedd yn y llywodraeth ar y pryd, yn dweud y gwir, fel rydw i’n dweud y gwir wrth y byd.”

Mae Shaker Aamer yn honni fod Tony Blair a’r llywodraeth yn gwybod beth oedd yn digwydd ym Mae Guantanamo.

Dywedodd bod yn rhaid cau’r carchar ac fe wnaeth apêl uniongyrchol i’r Arlywydd Barack Obama i wneud hynny.

Mae cadeirydd y pwyllgor seneddol ar gudd-wybodaeth a diogelwch wedi apelio ar Shaker Aamer i roi tystiolaeth i’r ymchwiliad tu ôl i ddrysau caeedig ynglŷn â honiadau bod y DU wedi bod yn rhan o’r arteithio ym Mae Guantanamo.