Mae ’na oedi hir o hyd at ddwy awr i deithwyr ar draffordd yr M4 ger Casnewydd y bore ma yn dilyn damwain ddifrifol.

Mae dwy lon ynghau ar y draffordd yn dilyn gwrthdrawiad ger Parc Tredegar yng Nghasnewydd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger y ffordd ymadael ar gyffordd 28 tua 4.15 bore dydd Llun.

Does dim  rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.