Mae Gweinidogion Cymru wedi diolch i saff y Gwasanaeth Iechyd yn eu neges Nadolig eleni, gan ddweud eu bod yn cyflawni “gwyrth fodern” yn eu gwaith.

Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford a’r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething ganmol y 150,000 o aelodau o staff Gwasanaeth Iechyd Cymru am ddarparu gofal “o safon ragorol”.

“Mae ymroddiad ac ymrwymiad ein staff iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig… maen nhw’n parhau i fod yn wyrth fodern, yn darparu gofal a thriniaeth na fyddai rhywun wedi eu dychmygu ychydig yn ôl,” meddai Mark Drakeford, AC.

‘Trin mwy o bobl nag erioed’

Dywedodd hefyd fod y rhai sy’n amau parhad y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu “profi’n anghywir dro ar ôl tro”, a bod hynny oherwydd safon y gofal meddygol sy’n cael ei ddarparu bob dydd.

Yn ôl Vaughan Gething, mae’r gwasanaeth yn trin “mwy o bobl nag erioed… gyda gwell canlyniadau.”

“Mae GIG Cymru… yn rhan annatod o Gymru. Fel llywodraeth, byddwn yn parhau i gefnogi ein gwasanaeth iechyd i ddarparu’r gofal modern, tosturiol mwyaf effeithiol sy’n bosib,” meddai.

Mewn pôl piniwn diweddar, roedd 25% o bobol Cymru yn credu bod y llywodraeth yn gwneud yn dda o ran y Gwasanaeth Iechyd, o gymharu â 46% oedd yn credu ei bod yn gwneud yn wael.