Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr A48 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd yr heddlu eu galw am 1yp ddydd Sul yn dilyn adroddiadau bod dau gerbyd wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Roedd car Seat melyn a oedd yn teithio o Drelales wedi taro yn erbyn car Citroen glas a oedd yn dod allan o lon Trelales.

Bu farw gyrrwr y Citroen, dyn yn ei 60au, yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrrwr y Seat ei arestio ac mae’n helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn teithio ar yr A48 tua’r un pryd ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500459555.