Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Bydd Prif Weinidog Cymru yn lansio ymgyrch ei blaid heddiw i gadw Cymru yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd Carwyn Jones hefyd yn datgelu mai Peter Hain, cyn-ysgrifennydd Cymru, fydd rheolwr yr ymgyrch.

Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gynnal refferendwm ynglŷn ag aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd 2017 a bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ym Manceinion.

Yn ôl Carwyn Jones, mae bron i 200,000 o swyddi yn dibynnu ar fasnach gyda gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ac mae economi Cymru yn dibynnu’n fawr arni.

Ond nid yw UKIP, sy’n ymgyrchu yn erbyn aros yn yr UE, yn derbyn hyn. Maen nhw’n dweud y byddai Cymru’n derbyn mwy o arian gan Lywodraeth Prydain petai’r DU yn penderfynu gadael yr UE.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio bore ‘ma ar gampws Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod yn y Rhws ym Mro Morgannwg.