Mae Aelod Seneddol Llafur Pen-y-bont ar Ogwr, Madeleine Moon wedi codi amheuon ynghylch gallu’r llu awyr i gynnal cyrchoedd awyr dros Syria ac Irac.
Dywedodd Madeleine Moon wrth raglen Sunday Politics BBC Cymru nad oes digon o beilotiaid, peirianwyr na chyfeirwyr i gynnal cyrchoedd awyr sylweddol.
Mae hi’n aelod o bwyllgor amddiffyn Llywodraeth Prydain.
Dywedodd hi: “Nid y cwestiwn cyntaf i’w ofyn yw ‘A ddylen ni ei wneud e? Ond yn hytrach, ‘A allwn ni ei wneud e?”
Mae disgwyl iddi deithio i Irac yn fuan fel rhan o arolwg o’r sefyllfa yn y Dwyrain Canol.
Ychwanegodd: “Mae gyda ni ddiffyg peilotiaid, mae gyda ni ddiffyg peirianwyr ac mae gyda ni ddiffyg cyfeirwyr i gael yr awyrennau yn yr awyr.
“Mae pobol yn siarad am y Typhoon ond dydy’r Typhoon ddim yn gallu cludo taflegryn Brimstone y mae’r Americaniaid mor awyddus i’w ddefnyddio.”
Yn ôl Madeleine Moon, mae 30% o diroedd Daesh yn Irac wedi cael eu hadennill.
Ond mae ganddi bryderon am y diffyg sylw i’r 70% sy’n weddill wrth i Lywodraeth Prydain ganolbwyntio ar Syria.
“Fe wnaethon ni’r un camgymeriad yn y gorffennol. Roedden ni yn Afghanistan ac yn 2001, aethon ni i Irac a rhannu ein lluoedd; gwnaethon ni rannu ein galluoedd.”
Dywedodd nad yw’r sefyllfa bresennol yn dderbyniol.