Mae Polisi Gofod Cenedlaethol cyntaf gwledydd Prydain wedi cael ei lansio wrth i ofodwr baratoi i fynd i’r Orsaf Ofod Genedlaethol am chwe mis.

Tim Peake fydd y gofodwr cyntaf o wledydd Prydain i deithio a byw ar yr orsaf ofod wrth fynd o amgylch y Ddaear ar daith chwe mis sy’n dechrau ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i’r polisi arwain at greu canolfan ofod ar gyfer technolegau gofod a theithiau i’r gofod a fydd yn rhoi hwb o £11.8 biliwn i economi Prydain.

Dywedodd Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Sajid Javid: “Ers degawdau, mae’r ddynoliaeth wedi bod yn breuddwydio am deithio i’r gofod a’r ffin eithaf ac o heddiw ymlaen, fe fydd y DU yn dechrau’r chwyldro gwyddonol ac arloesi nesaf i droi ffuglen wyddonol yn ffeithiau gwyddonol.

“Nid yn unig rydyn ni’n dathlu lansio’r gofodwr cyntaf i gael cefnogaeth Llywodraeth y DU ond hefyd, fe fydd ein polisi gofod cyntaf erioed yn adeiladu ar yr ysbrydoliaeth y mae e’n ei darparu i dyfu ein diwydiant gofod cynyddol.

“Yn hanesyddol, dydyn ni ddim wedi bod yn brif chwaraewr yn rhaglenni’r gofod, ond bydd y polisi hwn yn newid hynny.”

Bydd y polisi hefyd yn sicrhau cymorth yn dilyn trychinebau naturiol ac o ran amddiffyn a thrafnidiaeth, gan greu 100,000 o swyddi newydd a rhoi hwb economaidd o £40 biliwn erbyn 2030.