Cafodd dynes oedrannus a dyn 20 oed eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad yng ngorllewin Llundain brynhawn Sadwrn.

Cafodd y ddynes, oedd yn ei 70au, ei tharo gan yrrwr moped yn Southall am oddeutu 3.30yp.

Bu farw’r ddau yn y fan a’r lle, ac mae eu teuluoedd wedi cael gwybod.

Mae ymchwiliad i’r gwrthdrawiad ar y gweill, ac mae disgwyl i gwest a phost-mortem gael eu cynnal.