Does dim cyswllt amlwg rhwng dau o bobol o Syria a gafodd eu harestio yn Y Swistir ddydd Gwener a’r ymosodiadau brawychol ym Mharis.
Cafodd dau o bobol eu harestio yn Genefa wedi i olion o ffrwydron gael eu darganfod mewn cerbyd.
Ond does dim tystiolaeth fod ganddyn nhw gysylltiadau â’r pedwar sy’n cael eu hamau o gwblhau’r gyflafan mewn nifer o leoliadau ar draws brifddinas Ffrainc.
Mae lefel risg Genefa wedi codi i’r lefel uchaf posib yn dilyn adroddiadau bod yr awdurdodau wedi darganfod tystiolaeth fod ymosodiad yn cael ei baratoi.
Yn ystod yr ymchwiliad, cafodd dyn arall o’r Swistir ei arestio wedi i arfau gael eu darganfod yn ei feddiant.
Ond does dim cyswllt rhyngddo ef a’r pedwar sy’n cael eu hamau o gwblhau’r ymosodiadau ym Mharis.